****The phone lines are at their busiest before 10am therefore if you need an appointment with a member of the nursing team or are calling to book a blood test please call back after 10am.****
****Calling for results? To allow us to better manage demand on our phone lines please can all patients wishing to discuss results call the surgery after 2pm only.****
****Please note we cannot process repeat prescription requests over the phone. Please either use the econsult service via our website homepage or drop in a written request to the surgery.****
****Owing to the number of requests being received we are asking patients to provide 7 days for us to process a prescription rather than the usual 2 working days.****
****We are offering face to face appointments as well as telephone consultations as such if you wish to see a GP for a consultation please do let the reception team know when booking your appointment. Please note a GP may still ask to see you face-to -face following a telephone consultation if they deem it appropriate.****
**** Dylid archebu brechiadau teithio gyda’r Feddygfa o leiaf 6 wythnos ’cyn teithio. ****

Gwybodaeth am Feddygfa St Thomas

Gwybodaeth am Feddygfa St Thomas

St Thomas’ Surgery situated at the top of Haverfordwest town has 2 branch surgeries in the villages of Llangwm (Mill Street) and Broad Haven (Millmoor Way). The surgery covers a large rural area and serves approximately 13,000 patients.

St Thomas Green

Y Feddygfa Wreiddiol

Roedd y feddygfa wreiddiol wedi'i lleoli yn 17 Stryd y Farchnad, Hwlffordd, lle roedd Dr George Bowen (1888-1957) yn ymarfer. Oherwydd lleoliad a maint yr adeilad, ynghyd â'r nifer cynyddol o gleifion a oedd yn defnyddio'r feddygfa, penderfynwyd comisiynu meddygfa bwrpasol ger St Thomas Green, Hwlffordd. Cafodd hon ei hagor ar 18 Mai 1988 gan Miss Isobel Bowen, wyres Dr George Bowen.

Meddygfa St Thomas Heddiw

Mae'r feddygfa bwrpasol yn darparu 19 o ystafelloedd triniaethau a swyddfeydd, a hynny ar gyfer ein grŵp mawr o feddygon, staff clinigol a staff gweinyddol. Yn arwain o gyntedd flaen fawr ac iddi fynediad i gadeiriau olwyn a thoiledau ar gyfer cleifion, sy'n cynnwys cyfleusterau anabl a chyfleusterau newid babanod, y mae ystafell aros cynllun agored, fawr. Mae yna ddigon o le i barcio naill ai ar St Thomas Green neu ym maes parcio Cae'r Reifflwyr, sydd wedi'i leoli y tu ôl i'r feddygfa. Mae gennym hefyd faes parcio ar gadw ar gyfer gyrwyr anabl, a hynny y tu allan i brif fynedfa'r feddygfa.

Mae desg ein derbynfa yn gartref i sgrin cofrestru cleifion, lle y gall cleifion ymgofrestru pan fyddant yn cyrraedd ar gyfer eu hapwyntiadau. Mae yna ddolen anwytho gludadwy ar gael ar gyfer cleifion sy'n defnyddio cymorth clyw.

Rydym yn Bractis Hyfforddi Meddygon Teulu, sy'n golygu y bydd gennym, fel arfer, gofrestryddion, hyfforddeion Rhaglen Sylfaen 2 (meddygon cwbl gymwysedig yw'r rhain, sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu), myfyrwyr meddygol, ac, yn aml, weithwyr proffesiynol eraill sy'n ymgymryd â hyfforddiant pellach, yn gweithio yn y tîm. O bryd i'w gilydd, efallai y gofynnir i chi ymgynghori â myfyriwr meddygol; os bydd hyn yn digwydd, byddwch bob tro yn cael eich gweld gan un o feddygon y practis.

Byddwn yn mynd ati i ddiweddaru a datblygu'r adnodd hwn er mwyn ehangu lefel yr wybodaeth a gynigir. Gobeithiwn y bydd ein cleifion a'n hymwelwyr yn ei ystyried yn offeryn addysgiadol a defnyddiol.

Mae gennym hefyd daflen y practis sydd ar gael wrth ddesg y dderbynfa. Mae hon ar gael mewn print bras ar gais.

,