GDPR
GDPR at Feddygfa St Thomas
Efallai eich bod yn ymwybodol bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi cael ei sefydlu i fod yn Awdurdod Iechyd Strategol newydd, sef Gofal ac Iechyd Digidol Cymru, a hynny o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
YN RHAN O REOLIADAU'R GDPR A DDAETH I RYM YM MIS MAI 2018, MAE'N OFYNIAD CYFREITHIOL I NI ENWEBU SWYDDOG DIOGELU DATA AR GYFER Y PRACTIS.
MANYLIR AR HYN ISOD. OS OES GENNYCH UNRHYW GWESTIYNAU NEU YMHOLIADAU YNGLŶN Â HYN, CYSYLLTWCH Â RHEOLWR Y FEDDYGFA.
EIN SWYDDOG DIOGELU DATA YW:
Enw'r ‘Swyddog Diogelu Data ar ran y Gwasanaeth’ – Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraethu Gwybodaeth, Gwasanaeth Cymorth y Swyddog Diogelu Data. Ein cyfeiriad gwe yw: Cadw gwybodaeth am gleifion yn ddiogel – Iechyd a Gofal Digidol Cymru (gig.cymru)
Cysylltwch trwy - DHCWGMPDPO@wales.nhs.uk
Mae'r staff yn y practis hwn yn cofnodi gwybodaeth amdanoch chi a'ch iechyd fel y gallwch gael y gofal a'r driniaeth iawn. Efallai y bydd angen i ni gofnodi'r wybodaeth hon, ynghyd â manylion am y gofal yr ydych yn ei gael, a hynny am y bydd ei hangen, o bosibl, os byddwn yn eich gweld eto.
Efallai y byddwn yn defnyddio rhywfaint o'r wybodaeth hon am resymau eraill, er enghraifft i'n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd, i gynllunio ar gyfer y dyfodol, i hyfforddi staff, ac i gynnal ymchwil feddygol ac ymchwil arall i iechyd er budd pawb.
Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil yr ydym yn darparu gwybodaeth ddienw o nodiadau cleifion ar eu cyfer. Mae'r risg y byddwch yn cael eich adnabod o'r wybodaeth hon yn eithriadol o isel gan fod yr holl fanylion canfyddadwy (enw, cyfeiriad, cod post, rhif GIG, dyddiad geni llawn) yn cael eu dileu o'ch nodiadau cyn iddynt gael eu casglu ar gyfer yr ymchwil. At hynny, mae rhaglenni awtomatig i ddadbersonoli unrhyw destun rhydd (data anstrwythuredig neu wedi'u codio) yn cael eu rhedeg wedi i'r wybodaeth gael ei chasglu. Caiff cofnodion cleifion unigol eu hychwanegu at gronfa ddata ddienw fwy o lawer, sy'n cynnwys cofnodion miliynau o gleifion ledled y DU. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio gan ymchwilwyr y tu allan i'r practis hwn. Enw'r gronfa ddata yr ydym yn cyfrannu cofnodion dienw ati yw'r Rhwydwaith Gwella Iechyd (THIN). Gallai'r data hyn gael eu cysylltu'n ddienw â data eraill, megis data ysbytai. Rheolir y gronfa ddata hon gan gwmni y tu allan i'r GIG nad oes ganddo fynediad at eich manylion personol, dim ond at gofnodion dienw. Caiff y data eu defnyddio i ymchwilio i bynciau megis diogelwch cyffuriau, patrymau clefydau, patrymau presgripsiynu, economeg iechyd ac iechyd y cyhoedd. Mae nifer o'r astudiaethau hyn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i staff meddygol am glefydau, y defnydd o gyffuriau neu ganlyniadau clefyd neu driniaeth. Gall yr astudiaethau hyn gael eu cynnal gan ymchwilwyr academaidd neu gwmnïau masnachol, ymhlith eraill. Fodd bynnag, nid oes gan yr un ymchwilydd fynediad at eich manylion llawn, er enghraifft eich enw a chyfeiriad, llythrennau cyntaf eich enw, neu eich dyddiad geni llawn. Ni roddir gwybodaeth am y meddyg teulu i'r ymchwilwyr, na chwaith enw, cyfeiriad na chod post y practis. Os hoffech optio allan o'r cynllun casglu data hwn, rhowch wybod i'ch meddyg, ac ni chaiff unrhyw ddata o'ch cofnodion eu casglu i'w defnyddio mewn gwaith ymchwil. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich gofal mewn unrhyw ffordd. Pe byddai unrhyw beth yn ymwneud â'r ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol amdanoch eich hun, cysylltir â chi i ofyn a fyddech yn fodlon cymryd rhan. Ni chewch eich enwi mewn unrhyw ganlyniadau a gyhoeddir. Mae rhestr o ymchwil gyhoeddedig sy'n defnyddio'r gronfa ddata THIN i'w gweld yn http://csdmruk.cegedim.com/THINBibliography.pdf neu gallwch gysylltu â Michelle Page yn michelle.page@thin-uk.com i gael copi papur. Nodwch fod gennych hawl i gyrchu eich cofnodion meddygol. Os hoffech wybod rhagor unrhyw bryd, neu os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch siarad â Nerys Boswell, Rhif ffôn: 01437 762162
Cofnod Meddygon Teulu Cymru
Mae GIG Cymru wedi newid y ffordd y mae'n defnyddio gwybodaeth cleifion ar gyfer gofal.
Mae crynodeb digidol o'r wybodaeth a ddelir yng nghofnod eich meddyg teulu ar gael i'r meddygon, y nyrsys a'r gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig a fydd yn gofalu amdanoch tra byddwch yn yr ysbyty. Bydd yn eu helpu i ddarparu gofal cyflym, diogel ac o ansawdd i chi.
Mae gwybodaeth hanfodol o gofnod eich meddyg teulu wedi bod ar gael ers amser i gefnogi eich gofal pan fo'r feddygfa ynghau ‘y tu allan i oriau’, neu mewn argyfwng.
Fodd bynnag, hyd yma nid oedd y rhai a oedd yn gofalu amdanoch yn yr ysbyty, neu yn ystod apwyntiad cleifion allanol neu arhosiad cleifion mewnol, yn gallu mynd ati ar unwaith i gyrchu'r wybodaeth bwysig a ddelir gan eich meddyg. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau cyfredol, profion diweddar ac alergeddau.
Dim ond y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu amdanoch a all weld eich gwybodaeth, a hynny ddim ond gyda'ch caniatâd. Gall GIG Cymru wirio pwy sydd wedi edrych ar bob cofnod, pryd ac ym mha ffordd.
Mae Cofnod Meddygon Teulu Cymru yn grynodeb o gofnod meddygol llawn eich meddyg teulu. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol amdanoch: • Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt • Meddyginiaeth gyfredol a meddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf • Alergeddau neu unrhyw adweithiau niweidiol • Problemau neu ddiagnosis cyfredol • Canlyniadau unrhyw brofion a gafwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, er enghraifft profion gwaed a phelydr-X
Nid yw'n cynnwys unrhyw drafodaethau preifat y gallech fod wedi'u cael â'ch meddyg teulu
Optio allan
Os nad ydych am i unrhyw un heblaw eich meddyg teulu weld eich cofnodion, gallwch optio allan. Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen optio allan sydd ar gael yn eich meddygfa deulu. Anogir cleifion i siarad â'u meddyg teulu cyn optio allan, gan y gallai wneud gwahaniaeth i'r gofal y maent yn ei gael. Os nad yw rhiant neu warcheidwad plentyn dan 16 oed yn dymuno i'w blentyn gael cofnod, gall optio allan ar ei ran, ond dylai drafod hyn â'r meddyg teulu gyntaf. Dysgu Rhagor www.gprecord.wales.nhs.uk
For full details please click yma..