****The phone lines are at their busiest before 10am therefore if you need an appointment with a member of the nursing team or are calling to book a blood test please call back after 10am.****
****Calling for results? To allow us to better manage demand on our phone lines please can all patients wishing to discuss results call the surgery after 2pm only.****
****Please note we cannot process repeat prescription requests over the phone. Please either use the econsult service via our website homepage or drop in a written request to the surgery.****
****Owing to the number of requests being received we are asking patients to provide 7 days for us to process a prescription rather than the usual 2 working days.****
****We are offering face to face appointments as well as telephone consultations as such if you wish to see a GP for a consultation please do let the reception team know when booking your appointment. Please note a GP may still ask to see you face-to -face following a telephone consultation if they deem it appropriate.****
**** Dylid archebu brechiadau teithio gyda’r Feddygfa o leiaf 6 wythnos ’cyn teithio. ****

Hunanatgyfeirio

Beth yw hunanatgyfeirio?

Mae'r GIG yn cynnig gwasanaeth hunanatgyfeirio ar gyfer rhai meysydd iechyd a llesiant. Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu i gwrdd ag arbenigwr heb orfod gweld meddyg gyntaf. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn arbennig o addas i bobl sydd â chyflyrau cymharol syml megis poen yn y cymalau, straen a/neu anafiadau eraill. Mae hefyd yn dal yn bosibl i unigolion hunanatgyfeirio os oes arnynt angen gwasanaethau seicolegol i drin iselder ysgafn, er enghraifft.

Os oes gennych anghenion mwy cymhleth, ewch i weld eich meddyg gyntaf.

Hunanatgyfeirio at Gwnsela

Nid oes rhaid i chi gael diagnosis o broblem iechyd meddwl er mwyn hunanatgyfeirio at wasanaeth seicolegol y GIG. Gallwch hunanatgyfeirio os ydych wedi dioddef o unrhyw un o'r canlynol:
    • pyliau o banig
    • trafferth gydag ôl-fflachiau neu hunllefau
    • teimlo'n isel ac yn anobeithiol
    • ei chael yn anodd ymdopi â gwaith neu berthnasoedd
    • profedigaeth
    • meddyliau neu ymddygiadau obsesiynol
    • ofni sefyllfaoedd cymdeithasol
    • poeni o hyd ac o hyd am eich iechyd
    • ffobiâu
Os oes arnoch angen cymorth brys, cysylltwch â'r Samariaid ar 08457 909090 neu anfonwch neges e-bost at jo@samaritans.org.

Os ydych wedi cael profedigaeth sy'n effeithio ar eich llesiant emosiynol, corfforol neu gymdeithasol, cysylltwch â Cruse Bereavement Care on 0800 288 4700 a dewis

Opsiwn 1 ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Opsiwn 2 ar gyfer Ceredigion neu
Opsiwn 3 ar gyfer Sir Benfro.

Gallech hefyd gysylltu â'r Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol (CALL) ar 0800 132737 sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl rhywun arall.

Ar y llaw arall, bydd IAWN yn gallu eich helpu a rhoi cyngor i chi ar eich sefyllfa benodol.



Gwasanaeth Hunanatgyfeirio Podiatreg

Mae'r gwasanaeth hunanatgyfeirio podiatreg ar gael i bawb sydd ag anghenion podiatreg/meddygol o ran y coesau. 

Yn ystod eich apwyntiad, asesir eich angen a chynigir cyngor a thriniaeth i chi er mwyn cynnal a gwella ansawdd eich bywyd. Anogir ffordd egnïol o fyw yn ogystal, i sicrhau bod eich traed yn gweithredu mewn ffordd normal, a hynny heb unrhyw anghysur. Bydd rhai triniaethau'n cael eu rhoi yn y feddygfa ei hun hyd yn oed.

Ffurflen Hunanatgyfeirio Podiatreg Sir Benfro

Lymphoedema
Hunanatgyfeirio

Lymphoedema is a swelling that can occur in any part of the body, usually shows in the arms or legs, and is present for more than three months. If you would like further information and access to a referral form in English, please click yma..  

Hunanatgyfeirio at Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapi yn helpu i adfer symudiad a gweithrediad pan fydd anaf, salwch neu anabledd yn effeithio ar rywun. Gall hefyd helpu i leihau eich risg o gael anaf neu salwch yn y dyfodol.

Mae'n ymdrin yn benodol â phoen yn y cefn, y gwddf a'r ysgwyddau, yn ogystal ag anafiadau chwaraeon. Fe'ch anogir i hunanatgyfeirio yn yr achos hwn. Fodd bynnag, os yw eich symudiadau'n gyfyngedig o ganlyniad i strôc, MS, clefyd Parkinson, trawiad ar y galon, ffeibrosis systig neu unrhyw salwch cymhleth arall, ewch i weld eich meddyg teulu gyntaf.

If you would like to self-refer, please complete the relevant form below, please note this form is only needed if your GP, MSK Practitioner or Nurse Practitioner has not completed a referral to Physiotherapy on your behalf.

Ffurflen Hunanatgyfeirio at Ffisiotherapi Sir Benfro

If you do not have access to a smartphone or the internet please telephone the relevant physiotherapy department for guidance on how to self-refer to be added to the waiting list:

Physiotherapy Department, Withybush General Hospital, Fishguard Road, Haverfordwest, SA61 2PZ

Rhif ffôn:01437 773260

Mae angen y ffurflen hon dim ond os nad yw eich Meddyg Teulu, Ymarferydd MSK neu Ymarferydd Nyrsio wedi cwblhau atgyfeiriad i Ffisiotherapi ar eich rhan.

Yn Gymraeg cliciwch yma.

Neu Sganiwch y cod QR isod: