Hoffai Meddygfa St Thomas annog ein cleifion i ystyried yr Ymgyrch Dewis Doeth, a hyrwyddir gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.
Dewis y gwasanaeth GIG Cymru iawn os byddwch yn mynd yn sâl neu'n cael anaf.
Bydd Dewis Doeth yn eich helpu i benderfynu a oes arnoch angen sylw meddygol os byddwch yn mynd yn sâl. Mae'n egluro'r hyn y mae pob un o wasanaethau'r GIG yn ei wneud, a phryd y dylid ei ddefnyddio.
Mae dewis yn ddoeth yn golygu y byddwch chi a'ch teulu yn cael y driniaeth orau. Mae hefyd yn galluogi gwasanaethau prysur y GIG i gynorthwyo'r bobl y mae arnynt eu hangen fwyaf.
Ystyriwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu eich fferyllfa leol ar gyfer mân gŵynion gan y byddant, o bosibl, yn gallu rhoi cyngor mwy priodol i chi ynghylch eich problem gyfredol.
Gellir trin rhai cyflyrau yn rhwydd gartref, heb fod angen trefnu apwyntiad. Gallwch hefyd ofyn i'ch fferyllydd lleol am gyngor.
Fodd bynnag, os na fydd yr awgrymiadau canlynol yn gweithio, neu os ydych yn poeni mewn unrhyw ffordd, neu os plant, yr henoed neu unigolion â chlefydau eraill sydd dan sylw, yna cysylltwch â'r feddygfa.
Feirysau sy'n achosi anwydau, ac nid ydynt yn ymateb i wrthfiotigau. Mae'r symptomau yn aml yn cilio cyn pen ychydig ddiwrnodau, a'r cyngor cyffredinol fyddai i chi gael digon o orffwys a chymryd paracetamol neu asbirin yn rheolaidd.
Achosir y ffliw gan feirws, ac nid yw gwrthfiotigau yn effeithiol yn erbyn feirysau. Mae'r symptomau'n cynnwys twymyn, poenau a pheswch. Yr unig driniaeth sy'n ofynnol fel arfer yw gorffwys, cymryd paracetamol yn rheolaidd ac yfed digon o hylifau. Bydd y symptomau yn cilio, gan amlaf, cyn pen pedwar neu bum niwrnod. Dylai cleifion hŷn, y rheiny sydd â diabetes a'r rheiny sydd â chlefydau cronig y frest ystyried cael brechiad blynyddol rhag y ffliw.
Dylid dal llosgiadau o dan ddŵr oer sy'n rhedeg, a hynny am gyhyd ag y bydd y boen yn parhau. Gallai hyn fod hyd at 15 munud. Yna, dylid gorchuddio'r llosgiad â rhwymyn rhwyllog sych, a'i gadw'n lân. Dylid ymofyn am sylw meddygol ar gyfer llosgiadau mwy nag 8 cm (4 modfedd) o faint.
Glanhewch y clwyf yn drylwyr gyntaf. I atal unrhyw waedu, rhowch bwysau ar y clwyf am bum munud gan ddefnyddio swab rhwyllog glân. Gorchuddiwch y clwyf â rhwymyn glân, sych.
Mae dolur rhydd a chwydu yn arwain at golli hylifau o'r corff. Mae'n bwysig yfed digon o hylifau. Yn achos oedolion a phlant, bydd cymysgedd caolin yn helpu i leddfu dolur rhydd. Mae moddion eraill ar gael gan y fferyllydd.
Mae poen cefn yn broblem gyffredin, ac mae fel arfer yn ganlyniad i straen ar y cyhyrau. Bydd fel arfer yn cilio wrth i chi orffwys a chymryd paracetamol yn rheolaidd. Mae'r rhan fwyaf o achosion o boen cefn yn ganlyniad i geisio codi gwrthrych sy'n rhy drwm, neu ddefnyddio techneg wael i godi rhywbeth. I osgoi rhoi straen ar y cefn, gofynnwch am help pan fyddwch yn ceisio codi gwrthrychau trwm. Mae pelydrau-X fel arfer yn ddi-werth ar gyfer poen cefn.
Nid yw gwaedlifau o'r trwyn fel arfer yn ddifrifol, ac maent gan amlaf yn ganlyniad i fân anafiadau sy'n peri i bibellau gwaed bregus yn y trwyn waedu. Gellir fel arfer atal y gwaedu trwy chwythu'r trwyn yn glir gyntaf, ac yna binsio darn cigog y trwyn am tua 10 munud. Os bydd y gwaedu'n parhau, mae'n bosibl y bydd angen i chi fynd i adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty.
Yn gyffredinol, nid yw'r rhain yn achosi unrhyw beth heblaw anghysur ysgafn, a gellir eu trin ag elïau penodol. At hynny, gall gwrth-histaminau fod yn effeithiol, a gellir eu cael yn uniongyrchol gan y fferyllydd.
Mae llosg haul yn ganlyniad i dreulio gormod o amser yng ngolau uwchfioled yr haul (golau UVA ac UVB). Mae llosg haul yn achosi niwed i'r croen, gan gyflymu'r broes heneiddio a thueddu i achosi canser y croen. Dylid atal llosg haul trwy ddefnyddio eli haul ffactor uchel (ffactor 35), a gwisgo hetiau a chrysau T. Efallai y bydd yn ofynnol i blant ddefnyddio elïau haul â ffactor uwch (ffactor 50), ac ni ddylai plant ifanc (iau na blwydd oed) fod allan mewn heulwen danbaid. Dylid trin llosg haul yn yr un modd ag unrhyw losg arall. Yfwch ddigon o ddŵr i osgoi diffyg hylif, a gall defnyddio elïau ôl-haul helpu hefyd.
Mae'r rhain yn aml yn ganlyniad i feirysau, ac nid ydynt yn ymateb i wrthfiotigau. Maent fel arfer yn gwella ymhen ychydig ddiwrnodau, a dylid eu trin trwy gymryd paracetamol yn rheolaidd. Gall garglo â dŵr halen, garglo ag asbirin a bwyta losin gwddf hefyd helpu i leddfu'r anghysur. Gall eich fferyllydd roi triniaethau addas i chi.
Mae hwn eto yn ganlyniad i feirws heintus. Mae'r symptomau'n aml yn dechrau gyda thwymyn ysgafn a syrthni cyffredinol. Mae'r frech yn datblygu trwy ffurfio smotiau bach coch, sy'n aml yn cosi ac yna'n datblygu'n fuan i fod yn bothelli bach. Gellir trin y symptomau trwy gymryd paracetamol yn rheolaidd, a gellir trin y frech â hylif calamin. Gellir trin y cosi â gwrth-histaminau.
Mae'r feirws heintus hwn yn achosi chwydd poenus yn y chwarennau o flaen y clustiau, yn ogystal â thwymyn. Gall cymhlethdodau ddilyn y cyflwr hwn, a gellir ei atal trwy gael brechiad. Dylid trin y symptomau trwy gymryd paracetamol yn rheolaidd.
Mae'r frech hon yn ganlyniad i feirws heintus. Y symptomau yw twymyn, dolur gwddf a brech, sef ardaloedd bach pinc sy'n gorchuddio'r corff, y breichiau a'r coesau. Mae fel arfer yn salwch ysgafn, ond gall fod yn niweidiol i fabanod heb eu geni. Mae pob menyw yn cael ei harchwilio yn ystod beichiogrwydd am ei himiwnedd i frech goch yr Almaen.
Gall y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Brech Goch yr Almaen wneud plant yn sâl iawn, ac felly argymhellir yn gryf eu bod yn cael y brechlyn MMR i atal y clefydau hyn. Caiff ei roi fel arfer pan fydd baban yn naw mis oed. Ymgynghorwch â'ch meddygfa os hoffech gael rhagor o gyngor ar y brechlyn hwn.
Mae hon yn ganlyniad i feirws heintus. Mae'r symptomau'n cynnwys twymyn, dolur gwddf, peswch a llygaid dolurus, sy'n aml yn datblygu ddeuddydd cyn i'r frech ymddangos. Fel arfer, bydd yna frech goch flotiog ar yr wyneb a'r corff.
Gellir trin y symptomau trwy gymryd paracetamol yn rheolaidd, a dylid cynghori'r claf i yfed digon o hylifau. Gellir gwella'r peswch trwy gymryd moddion peswch.
Mae dull atal cenhedlu brys (y bilsen bore wedyn) ar gael naill ai gan eich ymarferydd cyffredinol neu'n uniongyrchol gan y fferyllydd. Mae'n effeithiol dim ond os caiff ei chymryd cyn gynted â phosibl ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch (cyn pen 72 awr).
Dylech ymgynghori â'ch meddyg neu ymwelydd iechyd i gael cyngor ar atal cenhedlu.
Rifleman Lane,
St Thomas’ Green,
Haverfordwest,
Pembrokeshire.
SA61 1QX
| Cookie | Duration | Description |
|---|---|---|
| cookielawinfo-checkbox-analytics | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics". |
| cookielawinfo-checkbox-functional | 11 months | The cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional". |
| cookielawinfo-checkbox-necessary | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary". |
| cookielawinfo-checkbox-others | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other. |
| cookielawinfo-checkbox-performance | 11 months | This cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance". |
| viewed_cookie_policy | 11 months | The cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data. |