Cwestiynau Cyffredin
Os oes arnoch angen ymweliad cartref, ffoniwch 01437 762162 cyn 10.30 a.m. (ac eithrio yn achos argyfwng).
Cynigir ymweliadau cartref ar sail angen clinigol, ac efallai y bydd meddyg yn eich ffonio cyn yr ymweliad. Mae un ymweliad cartref yn cymryd yr un faint o amser ag o leiaf bum apwyntiad yn y feddygfa, felly gofynnwn i gleifion geisio dod i'r feddygfa os yw hynny'n bosibl.
Mae rhifau ffôn a allai eich helpu i gael rhagor o wybodaeth am eich apwyntiad cleifion allanol i'w gweld isod:
Ysbyty Llwynhelyg 01437 645545
Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod 01834 845400
Ysbyty De Sir Benfro 01646 682114
Your results will be reviewed by a clinician once received and where the clinician deems it urgent that they discuss the results with you they will contact you as soon as possible. Often you will be contacted and asked to make a routine appointment to discuss non urgent matters. In such cases our admin team will either call you to arrange an appointment or you will be sent a letter inviting you to call the surgery to make an appointment. If you are concerned that your results have been missed please contact reception after 10am and they will be happy to try to assist you. Please note that where tests have been requested by a hospital consultant these results will be reported back to the requesting clinician as such you are advised to contact the clinician you are under for these results.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwch am gael cyngor ar broblem iechyd neu feddyginiaeth.
Gallwch adael neges ar gyfer y meddygon gyda'r derbynnydd. Ni fydd y meddyg yn gallu siarad â chi yn ystod ei feddygfa gan y bydd hynny'n tarfu ar ymgynghoriad â chlaf arall. Os bydd y meddyg yn teimlo y dylid eich ffonio, efallai y bydd yn eich ffonio 'nôl neu'n gadael neges gyda'r derbynnydd.
Bydd eich cyswllt cyntaf ag un o'n derbynyddion, sy'n ymdrechu i fod yn gwrtais bob amser. Byddwch cystal â bod yn gwrtais yn eich tro gan y gall eu swydd fod yn un anodd iawn. Gofynnir, gyda pharch, am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
Mae'r practis hwn yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus ar gyfer staff a chleifion. Os hoffech gael hebryngwr yn bresennol yn ystod eich ymgynghoriad, dywedwch wrth eich meddyg. Nyrs y feddygfa neu gynorthwyydd gofal iechyd fydd eich hebryngwr fel arfer, ond, ar adegau prin, efallai y gofynnir i dderbynnydd ymgymryd â'r rôl.
Gellir dod o hyd i ffurflenni hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi, podiatreg, ac ati, yma..
Ein nod yw rhoi gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol i'n holl gleifion. Fodd bynnag, os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i ni. Siaradwch â phwy bynnag yr ydych fwyaf cyfforddus yn siarad ag ef/hi – eich meddyg teulu, rheolwr y feddygfa – bydd yn hapus i'ch helpu. Yn y mwyafrif o achosion, gellir datrys pryderon yn gyflym ac yn hawdd.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i roi'r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy'n dod i'n meddygfa.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gall pethau fynd o chwith, gan beri i glaf deimlo bod ganddo achos gwirioneddol i fynegi pryder. Os dyma'r achos, byddem yn dymuno i'r mater gael ei ddatrys mewn modd mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
To pursue a concern please contact the practice manager who will deal with your concerns appropriately. To take the matter further please contact Llais Advocacy Service.
Address: Suite 5, First Floor,Tŷ Myrddin, Old Station Road, Carmarthen. Sa31 1BT
E-bost: westwalesadvocacy@llaiscyrmu.org
Ffôn: 01646 697610
Website: https://www.llaiswales.org/